Comisiwn y Senedd                                    

 

Lleoliad:

Ystafell Gynhadledd 4B - Hybrid

 

Dyddiad:

Dydd Llun, 22 Medi 2025

 

Amser:

10.30 - 12.30

 

 

 

Cofnodion:  SC(6)2025(8)

 

 

 

Aelodau’r Comisiwn:

 

Y Gw. Anrh. Elin Jones AS (Cadeirydd)

Janet Finch-Saunders AS

Adam Price AS

Joyce Watson AS

 

 

 

 

 

Swyddogion yn bresennol:

 

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Julian Luke, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd

Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau

Leanne Baker, Prif Swyddog Pobl

Lisa Bowkett, Prif Swyddog Cyllid

Matthew Richards, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Dros Dro

Nicholas Morgan, Pennaeth Rheoli Chyfleusterau ac Ystadau Dros Dro

James Attridge, Uwch-reolwr  Diogelwch

Ceri Rowe, Pennaeth Diogelwch

Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau

Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd

Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd

 

 

 

 

 

 

Eraill yn bresennol:

 

 

 

 

 

 

 

<AI1>

1      Cyflwyniad

 

</AI1>

<AI2>

1.a  Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

 

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

Rhoddodd y Llywydd deyrnged i'r diweddar Hefin David, a nododd ei gyfraniad gwerthfawr at waith y Comisiwn. Nododd y Llywydd ymhellach fod y Comisiwn wedi mynegi ei gydymdeimlad diffuant â'r rhai a oedd yn agos at Hefin.

 

</AI2>

<AI3>

1.b  Datgan buddiannau

 

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

Gofynnodd y Comisiynwyr am eglurder ynghylch a oes angen i unigolion yr effeithir arnynt ddatgan buddiant wrth drafod darpariaethau cyllidebol sy'n ymwneud â phenderfyniadau'r Bwrdd Taliadau Annibynnol ar gyfer Aelodau nad ydynt yn sefyll yn yr etholiad.

 

</AI3>

<AI4>

1.c   Cofnodion y cyfarfod blaenorol

 

Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod ar 14 Gorffennaf 2025.

 

</AI4>

<AI5>

1.d  Dyraniad TGCh y Seithfed Senedd - Dewisiadau o ran meddalwedd

 

Materion sy’n codi: Yn y cyfarfod diwethaf trafododd y Comisiynwyr opsiynau ar gyfer darparu meddalwedd a chytunasant i ymgynghori â'u Grwpiau. Crynhowyd yr adborth a gafwyd gan y Grwpiau Pleidiau mewn nodyn a ddarparwyd.

 

Ystyriodd y Comisiynwyr yr adborth a chytuno ar y dyraniad meddalwedd ar gyfer y Seithfed Senedd – i gynyddu’r ddarpariaeth fel yr argymhellwyd.

 

</AI5>

<AI6>

2      Cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2026-27

 

Ystyriodd y Comisiynwyr y Gyllideb Ddrafft arfaethedig ar gyfer 2026-27.

 

Roedd y Gyllideb Ddrafft wedi’i datblygu ymhellach ers i’r Comisiwn drafod y Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig yn y cyfarfod ar 2 Mehefin.

 

Trafododd y Comisiynwyr y cynigion a chytuno:

a)         ar y dyfarniad cyflog i staff y Comisiwn yn 2026-27;

b)        ar Gronfa Prosiectau (gan gynnwys £500,000 o gyfalaf) o £2 miliwn;

c)         i leihau’r gyllideb ar gyfer costau Cyllid Pensiwn yr Aelodau o £1 miliwn i £400,000; ac

d)        i gyfeirio at brosiect ‘Bae 32’ yn lle’r cyfeiriad at y Rhaglen ‘Ffyrdd o Weithio’;

Ystyriodd y Comisiynwyr agweddau ar y ddarpariaeth gyllidebol ar gyfer costau sy'n deillio o'r etholiad. Fe wnaethant gymeradwyo'r Memorandwm Esboniadol drafft fel y mae i’w weld yn Atodiad A, yn amodol ar newidiadau i'w cwblhau; a nodwyd y llythyr gan y Gweinidog Cyllid.

Byddai'r Gyllideb Ddrafft y cytunwyd arni yn cael ei gosod gerbron y Senedd a'i darparu i'r Pwyllgor Cyllid.

 

</AI6>

<AI7>

3      Ffyrdd o weithio

 

Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y tri phrosiect Ffyrdd o Weithio mawr, sef: Bae Caerdydd 32, Siambr 2026 a Tŷ Hywel 2026.

Rhoddodd y Comisiynwyr gymeradwyaeth mewn egwyddor (yn amodol ar ystyried papur manwl yn ddiweddarach yn y flwyddyn) i'r cynllun i ymrwymo i Gytundeb Cyn-datblygu gyda chyflenwr y datrysiad a ffefrir ar gyfer y llety yn y dyfodol fel rhan o brosiect Bae 32.

Fe wnaethant ystyried ymhellach y catalog gofynion Bae 32 wedi'i ddiweddaru, a'r newidiadau a wnaed ers ystyried y catalog ddiwethaf, a'r rhesymeg dros y mireinio hwn. Bydd y gofynion yn cael eu darparu i'r tendrwyr ym mhroses deialog gystadleuol Bae 32, i lywio cyflwyniad eu cynigion terfynol ym mis Hydref.

Cymeradwyodd y Comisiynwyr y catalog gofynion wedi'i ddiweddaru ar gyfer proses gaffael Bae 32, gan gynnwys y diwygiadau a nodir, i'w ddarparu i’r tendrwyr cyn eu cyflwyniadau terfynol.

 

</AI7>

<AI8>

4      Siambr 26 - Paneli acwstig ac opsiynau eistedd i’r Aelodau

 

Adolygodd y Comisiynwyr yr opsiynau a gynigwyd ar gyfer y paneli acwstig a'r seddi yn Siambr y Senedd sydd newydd ei hadnewyddu, a chadarnhawyd y dewis a ffefrir i brynu 110 o gadeiriau tasgau Humanscale Freedom ar gyfer seddi'r Aelodau.

Byddai angen profion ychwanegol brys ar y paneli acwstig a byddai'r opsiwn terfynol arfaethedig yn cael ei gyflwyno i'r Comisiynwyr y tu allan i'r cyfarfod.

 

</AI8>

<AI9>

5      Diogelwch yr Aelodau - Monitro’r cyfryngau cymdeithasol

 

Ystyriodd y Comisiynwyr bapur yn amlinellu bod y tîm Diogelwch Aelodau wedi gweld cynnydd mewn bygythiadau diogelwch ar-lein a cham-drin ar y cyfryngau cymdeithasol yn targedu cynrychiolwyr etholedig, a chynnydd o ran pryderon y mae’r Aelodau yn eu codi ynghylch cam-drin ar-lein.

Fe wnaethant adolygu sut mae Senedd y DU a Senedd yr Alban yn mynd i’r afael â hyn, a’r opsiynau arfaethedig ar gyfer gwasanaeth tebyg yn y Senedd, a pha gamau pellach y gallai’r Comisiwn eu cymryd i gefnogi a sicrhau diogelwch cynrychiolwyr etholedig a’u staff wrth ymgysylltu ag etholwyr mewn gofod digidol.

Cytunodd y Comisiynwyr ar yr argymhellion a ganlyn, sef:

·         y dylai’r Comisiwn gynnal treial, hyd at chwe mis o hyd, yn defnyddio’r llwyfan monitro cyfryngau cymdeithasol presennol, sef PULSAR, i fonitro’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer nifer dethol o Aelodau (hyd at 8), gan ganolbwyntio’n llwyr ar fygythiadau a cham-drin uwchlaw’r trothwy troseddol.

·         bod Tîm Diogelwch yr Aelodau:

-      yn edrych yn fanwl ymhellach ar ymarferoldeb monitro amddiffynnol ac Asesiadau Bregusrwydd Ar-lein; ac

yn gweithio gydag Uned Heddlu’r Senedd i ddatblygu ymhellach opsiwn i gydweithio’n fwy â Heddlu De Cymru a’r tri llu arall yng Nghymru, gan ymchwilio’n benodol i ddichonoldeb datblygu proses sy’n caniatáu adrodd am achosion o gyfathrebu maleisus yn uniongyrchol i’r heddlu pan fyddant yn canfod bygythiadau a cham-drin uwchlaw’r trothwy troseddol.

 

</AI9>

<AI10>

6      Papurau i'w nodi:

 

</AI10>

<AI11>

6.a  Defnyddio staff y Comisiwn yn ystod y Diddymiad

 

Nododd y Comisiynwyr ailgyflwyno Cynllun Benthyg Staff y Comisiwn ar gyfer defnyddio cyflogeion ar sail dros dro yn ystod cyfnod diddymu’r Senedd ac ar ôl yr etholiad.

 

</AI11>

<AI12>

6.b  Hwb - Symleiddio Mynediad at Wasanaethau'r Comisiwn

 

Nododd y Comisiynwyr y gwaith sy'n cael ei wneud i gyflawni gwelliannau i hwyluso mynediad ar leoliad at wasanaethau'r Comisiwn i Aelodau ar gyfer y Seithfed Senedd, drwy ddarparu gofod penodedig.

 

</AI12>

<AI13>

6.c   Llythyr y Prif Weithredwr at Lywodraeth Cymru: Goblygiadau ariannol y Bil Atebolrwydd Aelodau

 

Nododd y Comisiynwyr y llythyr gan y Prif Weithredwr at yr Ysgrifennydd Parhaol mewn ymateb i'r cais am wybodaeth am gostau gweinyddu ac arbedion posibl y Bil Atebolrwydd Aelodau sydd ar ddod gan Lywodraeth Cymru.

 

</AI13>

<AI14>

6.d  Cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) ar 23 Mehefin.

 

Nododd y Comisiynwyr y diweddariad a ddarperir fel mater o drefn i’r Comisiwn am gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.

 

</AI14>

<AI15>

6.e  Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

 

Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob cyfarfod o'r Comisiwn.

 

</AI15>

<AI16>

7      Unrhyw fater arall

 

Atgoffwyd y Comisiynwyr bod yr Arolwg Aelodau (y gall eu staff cymorth, hefyd, ei lenwi) ar agor, ynghyd â'r Arolwg Urddas a Pharch. Gofynnwyd i’r Comisiynwyr atgoffa aelodau eu grŵp amdano hefyd.

 

</AI16>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>